Nev, rheolwr The Call Centre ar BBC3
Mae dau gwmni sy’n ymddangos yn y gyfres deledu realiti The Call Centre ar BBC3 wedi cael dirwy am wneud galwadau niwsans i gwsmeriaid.

Mae ‘Nationwide Energy Services’ a ‘We Claim You Gain’, sydd wedi eu lleoli ar Ystad Ddiwydiannol yn Llansamlet ger Abertawe, wedi cael dirwy o bron i £250,000 rhyngddyn nhw.

Mae’r ddau gwmni’n rhan o ganolfan ‘Save Britain Money’.

Cafodd y cwmnïau eu cyhuddo o wneud galwadau niwsans mewn ymgais i werthu yswiriant PPI.

Cyfres

Mae’r gyfres deledu’n dilyn hynt a helynt staff y ganolfan o dan arweiniad Nev Wilshire, sydd wedi cael ei gymharu â chymeriad David Brent o’r gyfres The Office.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sydd wedi rhoi’r ddirwy: “Tra bod hynt a helynt Nev a’i weithwyr canolfan alwadau wedi diddannu nifer o bobol, maen nhw’n cuddio problem lawer mwy o fewn y diwydiant galwadau ar y pryd.

“Mae gan bobol yr hawl i beidio derbyn galwadau marchnata ac mae’r cwmnïau hyn wedi talu’r pris am fethu parchu dymuniadau pobol.”

Cafodd mwy na 2,700 o gwynion eu cofnodi rhwng mis Mai 2011 a mis Rhagfyr y llynedd.

Dim wedi’u cofrestru

Doedd yr un o’r ddau gwmni ddim wedi gwirio bod y bobol roedden nhw’n eu ffonio wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth TPS er mwyn derbyn y fath alwadau, sy’n ofyniad cyfreithiol ar ganolfannau galwadau.

Ychwanegodd y llefarydd: “Hoffen ni pe bai’n haws i ni roi dirwyon i gwmnïau sy’n torri’r rheolau.

“Yn yr un modd, mae pawb sydd ynghlwm yn cytuno bod angen i’r rheolau ynghylch sut mae cwsmeriaid yn rhoi eu caniatâd i dderbyn galwadau fod yn fwy eglur.”

Dywedodd llefarydd ar ran y rheoleiddiwr Which?: “Mae miloedd o bobol wedi dweud wrthon ni eu bod nhw wedi diflasu gyda derbyn llu o alwadau a negeseuon testun niwsans, felly mae’n dda gweld bod Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gwneud mwy i gosbi cwmnïau sy’n torri’r rheolau.”