Mae oddeutu 900 aelod o heddlu’r Garda yn mynd i fod yn rhan o ymgyrch ddiogelwch enfawr wrth i uwch-gynhadledd yr G8 ddod i Ogledd Iwerddon o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu llysoedd a chanolfannau aros mewn ardaloedd yng Ngweriniaeth Iwerddon – rhag ofn yr aiff pethau’n flêr. Mae rhai o’r ardaloedd yma yn cynnwys Donegal a Monaghan.

Er mai  ar lan Loch Erne yn Sir Fermanagh, Gogledd Iwerddon, y bydd yr G8 yn cyfarfod ar Fehefin 17 a 18, mae heddlu’r Weriniaeth yn mynd i fod yn helpu Heddlu Gogledd Iwerddon efo’r gwaith plismona.

Dywedodd Comisiynydd Cynorthwyol y Garda, Kieran Kenny, sydd â chyfrifoldeb tros ardaloedd ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, fod y ddau heddlu mewn cysylltiad â gwasanaethau diogelwch o amryw o wledydd gan gynnwys Interpol a Europol.

“Wrth ystyried digwyddiad o’r maint yma, mae’r rhestr petai/petasai yn un hir iawn,” meddai. “Mae cynlluniau ar y gweill sy’n cysidro y gwaethaf a’r gorau all ddigwydd.”

Fe fydd swyddogion Garda yn cadw golwg agos ar borthladdoedd a meysydd awyr, yn ogystal ag ar symudiadau pobol ar draws y ffin i’r Weriniaeth.