Mae disgwyl i dad y pêl-droedwyr Gary a Phil Neville gael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes 46 oed.
Mae’r ddynes yn honni i Neville Neville, 63 oed, ymosod arni yn ardal Greenmount yn Bury ar Fawrth 23.
Fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Bury a Rochdale ar Fehefin 12.
Mae’n asiant i’w feibion, ac yn gyn-gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Bury.
Roedd yn gricedwr amatur lleol gyda chlwb Greenmount yng Nghynghrair Griced Bolton yn y 1980au.
Roedd Gary Neville yn gefnwr de i Man U a bellach, mae’n gweithio fel sylwebydd cynorthwyol i Sky Sports ac fel un o hyfforddwyr Lloegr.
Mae ei frawd, Phil, newydd ymddeol o fod yn gapten ar glwb Everton.