Y fersiwn Cymraeg o'r llyfr sydd ar werth
Bydd llyfr go arbennig yn mynd ar werth yn Sotheby’s yn Llundain ddydd Mawrth nesaf.

Mae J.K. Rowling wedi penderfynu gwerthu ei chopi personol hi o argraffiad cyntaf ei llyfr poblogaidd Harry Potter and the Philosopher’s Stone.

Fe’i cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin 1997. Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres  am anturiaethau’r dewin ifanc Harry Potter a’i ffrindiau yn Ysgol Hogwarts. Mae miliynau o gopïau o’r llyfrau yn y gyfres wedi eu gwerthu ac mae nifer o ffilmiau Harry Potter hefyd bellach wedi eu cynhyrchu.

Bydd y ffaith fod J.K. Rowling wedi sgwennu nodiadau personol ar y llyfr yn siŵr o godi ei werth.