Mae traffordd yr M4 wedi bod ar gau i’r ddau gyfeiriad ger Caerdydd ar ôl i gar droi drosodd ddechrau’r prynhawn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ger cyffordd 33, Gorllewin Caerdydd, tua 12.40pm heddiw.

Bu’n rhaid i yrrwr gael ei dorri allan o’i gerbyd gan ddiffoddwyr tân. Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Roedd rhaid cadw’r draffordd ar gau er mwyn galluogi i’r cerbyd gael ei symud oddi yno gan y gwasanaethau brys. Mae bellach wedi ailagor.

Fe achosodd y digwyddiad tagfeydd ac oedi hir yn yr ardal.