Swyddfa'r Post (llun:Philip Toscano/PA Wire)
Bydd gweithwyr mewn cannoedd o swyddfeydd post yn mynd ar streic yfory am y pedwerydd tro o fewn ychydig wythnosau.

Mae aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn gwrthwynebu cynlluniau i werthu rhyddfraint 70 swyddfa a chau rhai eraill. Yn ôl yr undeb bydd cannoedd o weithwyr yn colli’i gwaith o’r herwydd.

Mae’r gweithwyr hefyd yn cwyno nad ydyn nhw wwedi cael codiad cyflog ers dwy flynedd.

Gweithwyr yn y swyddfeydd mwyaf, sef swyddfeydd y Goron fydd yn mynd ar streic. Mae’r rhain wedi eu lleoli ar brif strydoedd trefi a dinasoedd ac yn ôl Swyddfa’r Post mae nhw’n colli £40 miliwn y flwyddyn.

Mae Swyddfa’r Post yn cyhuddo’r undeb o wrthod derbyn realiti’r sefyllfa economaidd ond mae swyddogion yr undeb yn dweud mai ceisio cyrraedd targedau’r llywodraeth y mae rheolwyr y cwmni.

Dywedodd Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol y CUW, Dave Ward bod y llywodraeth wedi addo peidio cau rhagor o swyddfeydd ond mai dyma fuasai canlyniad gweithredu cynlluniau Swyddfa’r Post.

Ychwanegodd bod cynnig y cwmni o godiad cyflog yn seiliedig ar dderbyn bod 76 o swyddfeydd yn mynd i gau gan achosi colled o 800 o swyddi. Dywedodd bod degau o filoedd o bobl wedi arwyddo deisebau yn gwrthwynebu cynlluniau Swyddfa’r Post i werthu masnachfreintiau rhai swyddfeydd a chau rhai eraill.