Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi rhybuddio nad yw hanner y perchnogion tai ym Mhrydain sydd â morgeisi llog-yn-unig yn gallu fforddio ad-dalu benthyciadau.

Dywed y sefydliad nad oes gan hyd at 260,000 o bobol strategaeth yn ei lle ar gyfer ad-dalu benthyciadau.

Maen nhw hefyd yn gofidio bod cymaint o bobol gafodd eu holi wedi dweud nad ydyn nhw’n gwybod sut i fynd ati i ad-dalu’r benthyciad.

Galwodd y sefydliad am sicrwydd na fyddai benthyciadau’n cael eu hyrwyddo mewn modd camarweiniol i bobol sy’n ceisio benthyciadau.

‘Effeithio pobl dros 50 yn bennaf’

Dywed cwmni Saga Equity Release fod ymchwil yn dangos y bydd y cynlluniau morgeisi llog-yn-unig yn effeithio ar y grŵp oedran dros 50 yn bennaf.

Mae disgwyl i fwy na miliwn o bobol yn y categori oedran hwn golli £49,000 ar gyfartaledd wrth ad-dalu morgeisi llog-yn-unig.

Yn ôl Saga, does gan un o bob 10 o bobol ddim ffordd o ad-dalu’r benthyciad.

Mae hyd at chwarter y bobol sy’n cael eu heffeithio wedi dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw werthu eu cartrefi er mwyn dod o hyd i’r arian i ad-dalu’r benthyciad.

Mewn ymgais i ddatrys y sefyllfa, mae un o bob 13 wedi ymestyn eu morgeisi, tra bod traean o bobol yn defnyddio cynilon i gael eu hunain allan o ddyled.