Mae David Cameron wedi gwadu ei fod ef yn “Thatcherite” – er ei fod wedi dadlau mewn cyfweliad diweddar “ein bod ni i gyd bellach yn Thatcherites”.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Sunday Times sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ond a gafodd ei roi cyn marwolaeth y Farwnes Thatcher ddechrau’r mis hwn, mae David Cameron yn dweud ei fod yn “gefnogwr mawr” o’i ragflaenydd.

Ond, o gael ei holi’n uniongyrchol a yw e’n Thatcherite, mae’n dweud hyn: “Na… Mae pobol eraill yn fy ngalw i’n hynny. Dw i ddim yn credu fod labeli’n golygu cweit beth oedden nhw’n arfer ei olygu bryd hynny.

“Rwy’n gefnogwr Mrs Thatcher mawr,” meddai wedyn. “Roedd y brwydrau enillodd hi yn rhai pwysig iawn i’n gwlad ni, ond bellach mae yna sialensau gwahanol a phethau gwahanol sy’n rhaid delio â nhw.”

O gael ei wthio ar y cwestiwn a oedd etifeddiaeth Mrs Thatcher yn achosi problemau, fe gyfaddefodd ei fod ef bellach yn ceisio “ail-ddiwydiannu Prydain” ac arwain yn fwy “rhyddfrydol gymdeithasol”.