Mae un o aelodau meinciau cefn y blaid Geidwadol yn San Steffan wedi ymosod ar ddiwylliant “jobs for the boys” y llywodraeth, wedi i David Cameron roi swydd Pennaeth yr Uned Bolisi i Jo Johnson.

Yn ôl Adam Afriyie, mae yna ormod o weinidogion ar hyn o bryd, a llawer gormod o swyddi newydd yn cael eu cynnal, yn ôl pob sôn, er mwyn “lleddfu’r pwysau gwleidyddol” arnyn nhw.

Fe benodwydd Jo Johnson, Aelod Seneddol Orpington, yn Swyddog Cabinet yr wythnos ddiwetha’, gan roi iddo reolaeth dros bolisi. Mae Llafur wedi cyhuddo David Cameron o geisio prynu ffyddlondeb o fewn rhengoedd y Ceidwadwyr trwy rannu allan swyddi pwysig.

“Yn ein maniffesto yn 2010, roedden ni’n addo lleihau maint y llywodraeth,” meddai Mr Afriyie mewn erthygl ar wefan Geidwadol, ConservativeHome.com.

“Eto,” meddai wedyn, “dair blynedd yn ddiweddarach, mae’r llywodraeth yn tyfu ac yn ehangu. I mi, mae’r twf hwn yn achos pryder a dryswch.”

Mae’n cwyno fod 31 o bobol yn mynychu cyfarfodydd Cabinet, sy’n nifer llawer mwy na byrddau cwmnïau mwya’r byd. Mae nifer y gweinidogion wedi codi o 80 yn 1950, i tua 120 yn 2013.