Mae Ken Clarke wedi dweud fod straeon “gwirion” am y nifer o fewnfudwyr fydd yn dod i wledydd Prydain o Fwlgaria a Romia ddiwedd eleni, yn codi ofn ar bobol.

Mae’n hollol anghywir credu y bydd “llwythi” o bobol yn hawlio budd-daliadau yn dod yma o ddwyrain Ewrop, meddai.

Mynnodd hefyd mai’r brif broblem gyda mewnfudwyr oedd fod y llywodraeth bresennol yn San Steffan – llywodraeth ei blaid ef ei hun – yn methu dilyn rheolau “perffaith iawn” sy’n bodoli’n barod er mwyn rheoli mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r rheolau ar fudd-daliadau a gofal iechyd yn rhai y dylid cael eu defnyddio,” meddai Ken Clarke ar raglen Europhile ar sianel Sky News fore heddiw.

“Ar UKip y mae’r bai am godi ofnau chwerthinllyd am y llwythi o Fwlgariaid a’r llwythi o Romaniaid.

“Nes y bydd pobol yn gweld nad ydi eu bröydd yn llawn dop o Romaniaid, fe fydd UKip yn dal i bedlera’r ofn ac yn manteisio arno.”