Y pêl-droediwr David Beckham yw dyn cyfoethoca’r byd chwaraeon, yn ôl rhestr y Sunday Times Sport Rich List.

Mae paffwyr, golffwyr, raswyr ceir Fformiwla Un a chwaraewyr pêl-fasged, i gyd yn dod yn is ar y rhestr na brand Becks, sy’n werth £165m. Ac mae hynny heb gyfri’ cyfoeth ei wraig, Victoria, sy’n werth £35m.

Ond mae David Beckham, er hynny, ymhell y tu ôl i bersonoliaeth chwaraeon cyfoethoca’r byd, sef y golffiwr Tiger Woods, sy’n werth £570m.

Wayne Rooney yw chwaraewr pêl-droed cyfoethoca’ Uwch Gynghrair Lloegr, gyda ffortiwn o £51m. Mae ei gyd-aelod yn nhîm Man U, Rio Ferdinand, yn werth £42m, a Michael Owen wedyn yn werth £38m.

Pêl-droedwyr sy’n gyfrifol am £1.3bn o’r cyfanswm o £3.2bn sy’n cael ei ennill gan bersonoliaethau’r Rich List sy’n cynnwys 49 o bêl-droedwyr, 12 golffwr, 12 dyn o fyd rasio Fformiwla Un, 8 chwaraewr rygbi, a 5 paffiwr.