Rolf Harris ym Mhrifysgol Bangor (Llun: Gerallt Llewelyn)
Mae papur y Sun a’r BBC yn adrodd bod y diddanwr Rolf Harris wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau rhyw.

Mae hynny’n rhan o Operation Yewtree a gafodd ei lansio yn sgil honiadau eraill yn erbyn y cyflwynydd teledu Jimmy Savile.

Mae’n debyg nad yw’r heddlu wedi cyhoeddi enw Rolf Harris, 83 oed, sydd o dras Cymreig, a does dim awgrym o gysylltiad gydag achos Jimmy Savile ei hun.

Y gred yw fod yr honiad yn  ymwneud ag un achos hanesyddol.

Blogiau

Mae’r canwr a’r arlunydd o Awstralia o nifer o enwogion sydd wedi cael eu harestio wrth i’r heddlu ymchwilio i droseddau rhyw gan enwogion.

Roedd sawl blogiwr wedi cyhoeddi ei enw ers diwedd mis Mawrth gan honni mai ef oedd y “dyn o Berkshire” a oedd wedi cael ei grybwyll gan yr heddlu.

Roedd ei enw hefyd wedi ei drafod yn weddol eang ar y cyfryngau cymdeithasol.

Savile – ‘cannoedd heb gwyno’

Yn y cyfamser, mae honiadau fod Jimmy Savile yn gyfrifol am ddwywaith neu deirgwaith mwy o droseddau nag sydd wedi dod i’r amlwg.

Yn ôl adroddiadau papur newydd am gynhadledd gan gymdeithas plant, yr NSPCC, roedd cyn arweinydd yr ymchwiliadau i’w achos yn awgrymu bod cannoedd o ddioddefwyr heb gwyno.

Eisoes, mae 214 o droseddau wedi eu nodi yn erbyn enw Jimmy Savile a fu farw dros flwyddyn yn ôl ac mae’r rheiny’n cynnwys honiadau am 34 achos o dreisio.