Mae cyn olygydd y Times, James Harding, wedi cael ei benodi yn bennaeth Newyddion y BBC.

Fe fydd yn olynu Helen Boaden a fu’n bennaeth yn ystod yr helynt am raglen Jimmy Savile.

Fe fydd James Harding, fu’n olygydd y papur newydd am bum mlynedd cyn gadael y llynedd, yn dechrau yn ei swydd ym mis Awst. Bydd yn cael cyflog o £340,000 y flwyddyn.

Roedd Helen Boaden wedi camu i’r neilltu yn sgil yr ymchwiliadau i Jimmy Savile, cyn cael ei phenodi yn gyfarwyddwr Radio BBC.

Fe fydd James Harding yn bennaeth ar yr adran newyddion, sy’n cyflogi 8,000 o staff, a hefyd yn cymryd rôl ar fwrdd rheoleiddio a gweithredol y BBC.

Dywedodd ei fod yn “anrhydedd” cael bod yn rhan o ystafell newyddion y BBC.