Mae chwarter oedolion Prydain wedi dweud eu bod nhw’n ystyried cadw ieir yn dilyn y sgandal cig ceffyl yn ystod y misoedd diwethaf.

Dangosodd yr ymchwil gan B&Q fod pobol hefyd yn fwy tebygol o dyfu eu llysiau eu hunain nag oedden nhw flwyddyn yn ôl.

Dywedodd 23% o Brydeinwyr eu bod nhw’n ystyried cadw ieir er mwyn gwybod o ble mae’r cig yn dod.

Un o’r prif resymau dros dyfu eu bwyd eu hunain oedd fod y blas yn well (61%).

Dywedodd 53% fod yn well ganddyn nhw wybod ffynhonnell y bwyd, a 51% eu bod nhw am arbed arian.

Dywedodd llefarydd ar ran B&Q: “Mae cadw ieir yn ymddangos fel pe bai’n duedd sy’n tyfu. Mae’n dda i bobol wybod am ffynonellau eu bwyd ac mae’r plant wrth eu bodd.

“Os nad ydych chi’n byw yn y wlad, dylech chi wirio rheoliadau cadw ieir gyda’ch cyngor. Mae angen hefyd i chi roi ystyriaeth i’ch cymdogion.”