Mae bron i 700 o swyddi yn y fantol yn Morrisons wrth i’r cwmni archfarchnad geisio torri costau ar ôl gostyngiad yn ei elw.
Fe fydd Morrisons yn cyflwyno peiriannau i gymryd lle staff sy’n cyfri arian parod yn ei swyddfeydd ac mae wedi dechrau ymgynghoriad pedair wythnos gyda’r 689 o reolwyr swyddfeydd arian yn ei 490 o archfarchnadoedd.
Mae’r cwmni dan bwysau i arbed arian ar ôl i’w elw yn 2012 ostwng 7% i £879 miliwn.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf ar ôl i’r cwmni gael gwared a 165 o swyddi yn ei bencadlys chwe mis yn ôl.
Dywedodd Morrisons bod cyflwyno’r dechnoleg newydd “yn sicrhau bod y cwmni’r parhau’n gystadleuol.”
Mae Morrisons yn cyflogi 131,000 o staff.