Aelodau'r PCS yn gorymdeithio yn Aberystwyth y llynedd
Fe fydd degau o filoedd o weithwyr yn gweithredu unwaith eto yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch undeb gweision sifil y PCS dros gyflogau, pensiynau ac amodau gwaith gwell.
Mae disgwyl i’r aelodau streicio am hanner diwrnod ddydd Gwener (Ebrill 5).
Ac fe allai hyd at 55,000 o aelodau Cyllid a Thollau streicio am hanner diwrnod ddydd Llun nesa’ – ar ddechrau’r flwyddyn dreth newydd.
Bydd aelodau’r undeb yn y Swyddfa Gartref, gan gynnwys yr Asiantaeth Ffiniau yn streicio am ddiwrnod cyfan ar Ebrill 8.
Cynhaliodd yr undeb streic fawr ar ddiwrnod cyhoeddi’r Gyllideb fis diwethaf ac ers hynny, mae’r undeb wedi cyhuddo’r llywodraeth o wrthod cynnal trafodaethau i ddatrys y sefyllfa.
Ac mae Amgueddfa Cymru eisoes wedi rhyddhau datganiad ar wefan gymdeithasol Facebook yn dweud y bydd ei saith safle yng Nghymru – yn cynnwys yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, Amgueddfa’r Môr yn Abertawe, a Sain Ffagan yng Nghaerdydd – yn cau’n gynnar ddydd Gwener oherwydd y gweithredu diwydiannol.
Y cam nesa’
“Dywedon ni nad oedd ein streic ar ddiwrnod y Gyllideb yn brotest undydd a’r penwythnos hir hwn o gerdded allan yw’r cam nesaf mewn cyfres o streiciau i roi pwysau ar lywodraeth sy’n gwrthod siarad gyda ni,” meddai Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y PCS.
“Mae gweithwyr sifil a chyhoeddus yn gweithio’n galetach nag erioed i ddarparu’r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw ond yn hytrach na’u gwobrwyo, mae’r llywodraeth yn torri eu cyflogau, yn tynnu eu pensiynau oddi arnyn nhw ac yn ceisio rhwygo’u hamodau gwaith sylfaenol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet: “Mae’n siomedig fod y PCS unwaith eto’n mynnu gwthio am weithredu atgas nad yw unrhyw un yn elwa ohono, ac mae’n niweidio’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i’r cyhoedd.
“Gwnaeth y llywodraeth benderfyniad anodd i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus am ddwy flynedd, tra’n amddiffyn y sawl sy’n ennill llai na £21,000 drwy gynyddu eu cyflogi o leiaf £250 y flwyddyn.
“Mae cyfyngu cyflog wedi helpu i amddiffyn swyddi yn y sector cyhoeddus a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf.
Ychwanegodd y bydd y diwygiadau i’r system yn sicrhau bod amodau pensiwn “ymhlith y gorau sydd ar gael” i weithwyr, a bod modd cynnal y drefn am nifer o genedlaethau.