Mae gweithiwr cyngor wedi cyfadde’ bod â 300 o ddisgiau cyfrifiadurol â deunydd terfysgol arnyn nhw, yn ei feddiant.
Roedd Khalid Baqa, 48, wedi bod yn cadw’r disgiau yn ei gar ac yn ei gartre’, ac roedd un ohonyn nhw wedi ei chanfod yn ei gyfrifiadur gwaith, yn ôl tystiolaeth a glywyd heddiw yn llys yr Old Bailey.
Mae Mr Baqa, sy’n byw yn Barking, dwyrain Llundain, wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o ymwneud â chyhoeddiadau terfysgol.
Mae saith cyhuddiad arall yn ymwneud â bod â’r deunydd yn ei feddiant, yn mynd i aros ar ffeil, ac mae Khalid Baqa wedi cael ei gadw yn y ddalfa tan y bydd yn cael ei ddedfrydu ar Ebrill 26.