Fe fydd y Frenhines yn derbyn £5 miliwn ychwanegol y flwyddyn nesa’, ar ffurf grant newydd o bocedi’r trethdalwyr.
Swm y grant sy’n mynd i dalu costau cartref y frenhines yn 2013/14 fydd £36.1 miliwn.
Roedd y costau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys £1 miliwn tuag at ddigwyddiadau’r Jiwbilî.
Mae’r ‘grant’ yn disodli’r hen Restr Sifil, ac fe ddechreuodd y drefn newydd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd ddoe.
Mae’r arian hefyd yn cael ei wario ar deithio i ddigwyddiadau swyddogol yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae’r frenhines yn derbyn 15% o elw Ystad y Goron, a wnaeth elw yn 2011/12 o £240.2 miliwn.
Cafodd y £36.1 miliwn ei bennu ym mis Rhagfyr. Cynyddodd gwariant y frenhines o £32.1 miliwn yn 2010/11 i £32.3 miliwn y flwyddyn ganlynol.
Mae £10 miliwn yn cael ei wario ar gyflogau staff, ond mae’r cyflogau wedi’u rhewi ers rhai blynyddoedd.
Dydy’r costau ddim yn cynnwys diogelwch a heddlu ar gyfer aelodau’r teulu brenhinol.