Mae disgwyl i’r tywydd wella erbyn y penwythnos nesa’, yn dilyn y mis Mawrth oeraf ers dros hanner canrif.

Gallai’r tymheredd yn ne Prydain godi i 10 gradd selsiws, sydd ychydig yn is na’r arfer ym mis Ebrill, yn ôl arbenigwyr.

Ond mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r tymheredd uwch ddod â glaw yn ei sgil hefyd.

Bydd y tymheredd yng ngwledydd Prydain yn 7 neu 8 gradd Celcius ar gyfartaledd erbyn dydd Sadwrn.

Newid ar y ffordd

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran dywydd MeteoGroup: “Yn bendant, mae newid ar y ffordd.

“Byddwn ni’n sylwi arno’r wythnos nesaf yn fwy nag unrhyw beth, gyda’r tymheredd yn dychwelyd i’r arfer.

“Mae dydd Sadwrn yn edrych yn braf iawn yn y de. Mi fydd hi’n oer ond bydd digon o heulwen, er y bydd hi’n dechrau’n rhynllyd.

“Yn y gogledd mi fydd hi’n eithaf oer ddydd Sadwrn gyda glaw ac eirlaw.

Yn nes at y cyfartaledd…

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: “Yr hyn welwn ni yw’r tymheredd yn mynd yn nes at y cyfartaledd ond fe welwn ni dipyn mwy o dywydd ansefydlog, gyda chyfnodau brafiach a sychach hefyd.”