Mae Canghellor y Trysorlys, George Osborne, wedi amddiffyn y newidiadau lles sy’n dod i rym y mis yma, gan ddweud fod y system les fel ag yr oedd hi “wedi methu”.

Cyhuddodd Osborne y rheiny sydd wedi beirniadu’r newidiadau o siarad “rwtsh” a dywedodd fod y llywodraeth yn ceisio “adfer synnwyr cyffredin” i sistem oedd yn rhy gostus.

Yn ei araith heddiw ym mhrif safle ddosbarthu archfarchnad Morrisons, yng Nghaint, dywedodd George Osborne:

“Mae rhai wedi dweud mai dyma ddiwedd y wladwriaeth les. Dyna beth yw nonsens er mwyn cipio penawdau. Ddyweda i wrthoch chi’r gwir – nid yw trethdalwyr yn credu fod y wladwriaeth les yn gweithio mwyach.”

“Ni ellir amddiffyn budd-daliadau sy’n caethiwo pobol mewn tlodi ac yn cosbi gwaith,” meddai.

‘Mae’n ceisio creu rhaniadau’ medd arweinydd undeb

Ymhlith y newidiau mae toriadau i fudd-daliadau treth cyngor, gan gynnwys ‘treth ystafell sbâr’, a gosod terfyn o 1% ar godiadau credyd treth dros y tair blynedd nesaf.

Gwrthododd George Osborne â dweud p’un ai y gall fyw ar £53 yr wythnos, fel yr honodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith ddoe mewn ymateb i sylw gan un ceisiwr budd-daliadau.

“Nid wyf i’n credu ei bod hi’n synhwyrol gostwng y drafodaeth i ddadl am amgylchiadau un unigolyn,” meddai George Osborne.

Ond mae Llafur yn San Steffan wedi dweud mai “myth” yw awgrym George Osborne fod yn cefnogi teuluoedd sy’n gweithio.

Yn ôl Chris Leslie, llefarydd Llafur ar y Trysorlys, mae tri chwarter y bobol sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau lles yn bobol sydd mewn gwaith.

Ac mae ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, Len McCluskey, wedi dweud mai bwriad araith George Osborne oedd creu rhaniadau rhwng y rhai sydd mewn gwaith ac ar gyflogau isel, a’r rhai sy’n dlawd ac allan o waith.