Graham Ovenden
Mae artist byd-enwog wedi ei gael yn euog mewn llys barn o ymosod yn rhywiol ar blant.

Doedd Graham Ovenden, a astudiodd gelf o dan Syr Peter Blake, ddim yn y llys i glywed y dyfarniad, wedi iddo fynd yn sâl dros y Sul.

Fe ddaeth rheithgor o saith dyn a phump dynes yn Llys y Goron Truro i’r casgliad ei fod yn euog o chwe chyhuddiad o ymddygiad anweddus gyda phlentyn, ac un cyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Fe’i cafwyd yn ddieuog o ddau achos arall o ymosod yn anweddus.

Roedd Graham Ovenden, sy’n byw yn Barley Splatt ger Bodmin yng Nghernyw, yn gwadu pob un o’r cyhuddiadau yn ymwneud â phedwar plentyn rhwn 1972 ac 1985.

Mae’r Barnwr Graham Cottle wedi gohirio’r dedfrydu. Mae’r gwrandawiad hwnnw’n debygol o ddigwydd yn Llys y Goron Plymouth Crown.