Mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Elin Jones AC wedi galw ar Lywodraeth Cymru i atal byrddau iechyd rhag gosod gorchmynion cyfrinachedd ar weithwyr sy’n gadael.
Mae ymchwiliad gan aelod Plaid Cymru trwy ddefnyddio Deddf Rhyddid Gwybodaeth wedi datgelu fod byrddau iechyd yng Nghymru wedi gosod yr hyn a elwir yn orchmynion gagio dros 35 gwaith ers 2009.
Dengys gwybodaeth a gafwyd fod mwyafrif y gorchmynion cyfrinachedd wedi eu cyhoeddi yn ardaloedd byrddau iechyd Cwm Taf a Betsi Cadwaladr.
Ar y llaw arall, dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg eu bod yn dilyn “polisi Cymru gyfan … ac nid yw’n gosod unrhyw orchmynion gagio ar staff nac yn gosod unrhyw delerau fyddai’n cyfyngu ar allu gweithiwr i siarad yn gyhoeddus”.
Agored a thryloyw
Meddai Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion: “Mae adroddiad Francis yn sgil y sgandal yng Nghanol Swydd Stafford yn argymell bod yn agored a thryloyw.
“Rydym wedi gweld eisoes, trwy arolygon urddas a gofal hanfodol, fod problemau gyda gofal cleifion yn rhai ysbytai yng Nghymru, ac ni ddylai byrddau iechyd geisio atal cyn-weithwyr rhag lleisio eu barn am unrhyw broblemau a welsant.
“Dengys y ffigyrau hyn fod llawer o fyrddau iechyd yng Nghymru yn ceisio atal cyn-weithwyr rhag datgelu gwybodaeth allai fod o fudd i’r cyhoedd,” meddai wedyn, “a hynny’n sicr gyda thaliadau sylweddol ynghlwm.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn atal byrddau iechyd rhag defnyddio’r cymalau cyfrinachedd hyn, a buasent yn gwella tryloywder yn y gwasanaeth iechyd.”
Y sefyllfa yn Lloegr
Yn Lloegr, mae gorchmynion cyfrinachedd wedi eu gwahardd gan Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt, yn sgil sgandal Canol Swydd Stafford.
Faint o gagio sydd?
Abertawe Bro Morgannwg – 0
Aneurin Bevan – 3 ers 2009/10
Prifysgol Betsi Cadwaladr – 13 rhwng Ebrill 1, 2011 a Rhagfyr 31, 2012. Dim gwybodaeth am 2009-10 na 2010-11 oherwydd y dull o gofnodi hawliadau.
Caerdydd a’r Fro – llai na 5 ers 2009
Cwm Taf – 18 ers 2009
Hywel Dda – llai na phump ers 2009
Powys – 0