Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn 29 mlwydd oed ar ôl digwyddiad ym mhentre’ Llanrug ger Caernarfon ar ddydd Llun y Pasg.
Fe gafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yn Llanrug toc wedi 4 o’r gloch brynhawn ddoe.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw’n dal i ymchwilio i’r amgylchiadau, tra bod crwner gogledd Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu o’r farwolaeth.
Mae disgwyl i brofion post mortem gael eu cynnal yn ddiweddarch heddiw.