Fe fydd cynhadledd yr wythnos nesaf i drafod dulliau o sicrhau dŵr yfed cynaladwy yn cael ei chadeirio gan academydd o Brifysgol Abertawe.

Bydd cynhadledd gyntaf Canolfan Technolegau Datblygedig Dŵr ac Ymchwil Amgylcheddol yn cael ei chynnal yn Sbaen rhwng Ebrill 7 a 10, a’r Athro Nidal Hilal fydd yn ei chadeirio.

Mae’n cael ei gydnabod fel academydd blaenllaw yn y maes, ac mae ei ymchwil wedi’i seilio ar ddulliau o ddarganfod atebion i brinder a glendid dŵr trwy gael gwared ar halen ac amhureddau o’r moroedd a dŵr gwastraff.

Bydd y gynhadledd yn trafod datblygiadau diweddaraf y maes, ac fe fydd aelodau’r gynhadledd yn cynnwys ymchwilwyr academaidd, gwyddonwyr a pheirianwyr, yn ogystal â swyddogion y llywodraeth, cynrychiolwyr asiantaethau rhyngwladol a sefydliadau cymorth.

Dywedodd yr Athro Hilal: “Rwy wrth fy modd yn cael cadeirio’r gynhadledd hon a fydd yn mynd i’r afael â materion hanfodol y byd heddiw.

“Prinder dŵr glân yw’r rheswm am filiynau o farwolaethau bob blwyddyn yn y gwledydd tlotaf, tra bo’r galw am y fath ddŵr yn y gwledydd mwyaf cyfoethog yn cynyddu’n barhaus.

“Hefyd, mae’r gynhadledd hon yn tynnu sylw at y ffaith fod rhaid i ni, fel peirianwyr, barhau i ddarganfod ffyrdd newydd o gynhyrchu dŵr mewn ffyrdd diogel ac amddiffyn cyflenwad cynaladwy o ddŵr glân yn y dyfodol.”