Mae Heddlu De Cymru yn galw am wybodaeth ar ôl ymosodiad ar ddyn 19 blwydd oed ar benwythnos gêm rygbi Cymru’n erbyn Lloegr yng Nghaerdydd.
Roedd y dyn ifanc yn eistedd mewn safle bws ar y Kingsway yng Nghaerdydd tra’r oedd ei ffrind yn ceisio galw tacsi. Roedd hi rhwng 12:15am a 12:45am, ddydd Sul, Mawrth 17.
Fe ddaeth dyn gwyn yn ei ugeiniau cynnar ato, ac ymosod arno gan dorri ei ên.
Mae disgrifiadau o’r ymosodwr yn dweud ei fod rhwng 5 troedfedd 9 modfedd a 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, gyda gwallt brown, byr, a chorff cyhyrog. Roedd yn siarad gydag acen y Cymoedd.
Pan ddigwyddodd yr ymosodiad, roedd yn gwisgo crys-T, ac roedd dyn arall a dwy fenyw gydag e.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio’r PC David Watts ar y rhif 07584 771 310, neu gysylltu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.