Ddydd Gwener, fe fydd Heddlu De Cymru yn cyflwyno dwy orsaf symudol.
Bwriad y gorsafoedd symudol yw symud gwasanaeth yr heddlu yn nes at gymunedau’r rhanbarth a denu pobol na fyddai’n arferol yn picio mewn i orsaf heddlu.
Mae’r ddwy orsaf newydd yn cael eu cyflwyno yn nhreialon cenedlaethol cŵn yr heddlu ym Mharc Gwledig Margam.
Plismyn Bro fydd yn gweithio yn gorsafoedd symudol ac yn delio gyda phryderon trigolion lleol ac yn cefnogi digwyddiadau. Byddan nhw’n para ar agor tan 8.30 y nos ac felly’n rhoi cyfle i bobol sy’n gweithio yn ystod y dydd i ymweld â nhw medd Heddlu De Cymru.
Mae heddluoedd eraill ar draws Cymru hefyd yn defnyddio gorsafoedd symudol. Yng Ngwent mae cownteri mewn 17 o orsafoedd wedi cau er mwyn arbed arian, ac wedi cael eu disodli gan bump gorsaf symudol sy’n teithio o amgylch y de-ddwyrain.