Fe allai gweithwyr Swyddfa’r Post fynd ar streic yr wythnos hon, os na fydd ffrae tros gynlluniau cau swyddfeydd a diswyddo staff, yn cael ei setlo.

Mae aelodau’r undeb sy’n cynrychioli gweithwyr cyfathrebu yn swyddfeydd y Goron, eisoes wedi cerdded allan unwaith, tros gynlluniau i gau 70 o swyddfeydd post mawr y stryd fawr.

Mae Swyddfa’r Post wedi cyhuddo’r undeb o anwybyddu “realiti masnachol llym” sy’n ei wynebu.

“Mae yna gefnogaeth fawr i streic, ac mae pob arwydd yn awgrymu y bydd y gefnogaeth yn tyfu ac y byddwn ni’n cerdded allan eto,” meddai Andy Furey o undeb y CWU.

“Fe fydd ein cynrychiolwyr yn cyfarfod eto ddydd Mercher ac, os na fydd yna newid o du rheolwyr Swyddfa’r Post, fe fyddwn ni’n cyflwyno rhybudd o’n bwriad i gynnal streic arall yr wythnos hon.”