Fe fydd gyrwyr ambiwlans a gweithwyr iechyd yn Swydd Efrog yn mynd ar streic fory, fel rhan o ffrae chwerw tros doriadau a’r modd y mae undebau’n cael eu trin.
Mae’r undeb Unite yn dweud y bydd ei 450 o aelodau yn cerdded allan am 24 awr, wedi i drafodaethau fethu â dwyn ffrwyth. Fe fydd staff ambiwlans a pharafeddygon yn cynnal llinellau piced ar draws y sir.
Fe fydd y gwasanaethau’n parhau o ran cleifion, gan nad ydi aelodau undebau eraill yn cymryd rhan yn y streic fory.
Mae Unite yn dadlau fod rheolwyr yn anwybyddu pryderon yr undeb ynglyn â thoriadau o £46m dros y pum mlynedd nesa’. Mae’r undeb yn honni bod cynlluniau’n cynnwys bwriadau i gyflogi cynorthwywyr gofal i weithio ochr yn ochr â pharafeddygon – ond gydag ychydig wythnosau’n unig o hyfforddiant.
Ers yr wythnos ddiwetha’, mae gweithwyr yn gwrthod gweithio gor-amser, wedi iddyn nhw bleidleisio’n unfrydol tros weithredu’n ddiwydiannol.