Mae athrawon wedi pleidleisio heddiw tros foicotio profion mewn ysgolion, wrth iddyn nhw hefyd rybuddio y bydd y gor-brofi yn gwasgu’r amser sydd ar gael ar gyfer y celfyddydau, cerddoriaeth a llyfrau.

Mae angen cael gwared â chynlluniau newydd llywodraeth San Steffan i gyflwyno profion darllen a sillafu, atalnodi a gramadeg ar gyfer plant bach, meddai aelodau undeb yr NUT.  

“Mae cwricwlwm ysgolion cynradd yn cael eu camddefnyddio ar gyfer cyflwyno’r profion diangen hyn,” meddai cynhadleddwyr yn Lerpwl heddiw. “At hynny, does yna ddim gwerth addysgol iddyn nhw.”

Roedd galwad ar i athrawon gynnal ymgyrch yn erbyn y profion. Mae’r NUT ar hyn o bryd yn dal i drafod y ffordd orau o ddelio â’r mater, ar gyfer gweithredu yn 2014.