Mae camerâu cyflymder wedi cael eu diffodd mewn rhannau o wledydd Prydain, oherwydd eu bod nhw’n rhy ddrud i’w cynnal a’u cadw.

Mae’r camera ola’ o blith y 304 yn ardal y West Midlands wedi cael ei ddiffodd heddiw, yn dilyn penderfyniad gan yr heddlu y llynedd.

Mae cyngor sir yr ardal hefyd wedi cefnogi penderfyniad yr heddlu, gan ddewis defnyddio camerâu symudol yn hytrach.

Arbed arian sydd wrth wraidd y penderfyniad. Fe fyddai uwchraddio’r camerâu i rai digidol yn costio £580,000, a dyw’r arian hwnnw ddim ar gael, yn ôl yr heddlu.

Ond eto, mae tynnu’r camerâu o’u lle yn mynd i gostio £600,000.