Mae Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, yn mynd i redeg Marathon Llundain eto eleni – er bod ei deulu, meddai, yn credu ei fod yn “wallgof” am wneud.

Fe fydd y gwleidydd 46 blwydd oed yn rhedeg y ras ar hyd strydoedd Llundain ar Ebrill 21 er mwyn codi arian at elusennau Action for Stammering Children a Whizz-Kidz.

Wrth ysgrifennu ar ei flog, mae Ed Balls yn dweud iddo honni na fyddai “byth eto” yn rhedeg y farathon, ar ôl gwneud y cwrs mewn 5 awr 31 munud y llynedd.

Ond bellach, mae’n gobeithio codi o leia’ £31,000 mewn arian nawdd. Y llynedd, fe gododd £69,000.