Mae 30 o bobol bellach wedi marw ar ôl i adeilad gwympo yn Tanzania.

Mae gweithwyr achub wedi rhoi’r gorau i obeithio y byddan nhw’n dod o hyd i fwy o bobol yn fyw ar safle’r adeilad 16 llawr yn Dar es Salaam a gwympodd fore Gwener.

Dim ond 17 o bobol sydd wedi cael eu cario o’r rwbel yn fyw.

Labrwyr a phobol oedd yn pasio ar y pryd, ydi’r rhan fwya’ o’r meirw. Doedd yna neb eto’n byw yn yr adeilad, gan ei fod yn y broses o gael ei adeiladu. Fe gafodd bechgyn oedd yn chwarae pêl-droed mewn cae cyfagos, hefyd eu lladd.

Yn ôl tystion, mae yna weithwyr adeiladu yn dal i fod ar goll.