Mae angen defnyddio’r system dreth i beri bod ail gartrefi mewn ardaloedd gwledig allan o gyrraedd mwy o deuluoedd, yn ôl llywydd y mudiad Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig.

Dywedodd Syr Andrew Motion, y cyn Fardd Llawryfog, fod “townies” cefnog yn difa cymunedau gwledig ac yn achosi prinder tai.

Rhybuddiodd fod ardaloedd gwledig o dan warchae gan gynllunwyr a oedd â mwy o ryddid nag erioed i adeiladu ar safleoedd gwyrdd.

Er nad oedd yn galw am waharddiad ar berchnogaeth ail gartref, dywedodd:

“Fy fyddwn i’n cynyddu trethi ar ail gartrefi er mwyn ei wneud yn ddrud iawn.

“Mae ail gartrefi’n golygu cymunedau yng nghefn gwlad sy’n wag y rhan fwyaf o’r wythnos, gyda phobl sy’n gyrru i lawr yn eu ceir i weld eu ffrindiau crand, nad ydyn nhw’n ymuno ym mywyd y gymdeithas nac yn cyfrannu ati.

“Mae’r ‘townies’ cefn gwlad yma’n ôl yn Llundain i wylio’r newyddion am 10 o’r gloch nos Sul – sy’n golygu bod cymunedau gwledig yn cael eu difa.”