Gallai cynilion o dros 100,000 ewro (£85,000) ym Manc Cyprus golli hyd at 60% o’u gwerth.

Dyna yw rhybudd swyddogion Banc Canolog a Gweinyddiaeth Cyllid Cyprus heddiw.

Bydd unrhyw gyfrifon o dros 100,000 ewro yn colli 37.5% o’u gwerth ar unwaith wrth iddyn nhw gael eu trosi’n gyfranddaliadau yn y banc.

Dywed y swyddogion y gallant golli hyd at 22.5% ar ben hyn, gan ddibynnu ar asesiad gan swyddogion a fydd yn penderfynu ar yr union swm sydd ei angen er mwyn achub y banc sy’n fenthyciwr mwyaf y wlad.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad gan lywodraeth Cyprus ddydd Llun i wneud i bobl â chynilion yn y banc gyfrannu at ei achub er mwyn sicrhau 10 biliwn ewro (£8.5 biliwn) mewn benthyciadau gan wledydd parth yr ewro a’r IMF.