Cafodd postman ei ladd ar ôl cael ei daro gan ei fan tra’n dosbarthu parseli ar Benbecula sy’n un o Ynysoedd yr Hebrides Allanol.

Digwyddodd y ddamwain ddoe wrth i’r postman dynnu parseli allan o gefn y fan wnaeth rowlio yn ôl a mynd drosto.

Dyw’r heddlu ddim wedi ei enwi hyd yma.