MI5
Fe gyhoeddwyd heddiw mai cyfarwyddwr cyffredinol newydd MI5 yw’r dirprwy presennol Andrew Parker.

Fe fydd Andrew Parker, 50, sydd wedi bod yn gweithio i’r gwasanaeth diogelwch ers dechrau’r 80au, yn olynu Syr Jonathan Evans ar 22 Ebrill.

Roedd yn gyfrifol am arwain yr ymateb i’r ymosodiadau bom yn Llundain ar 7 Gorffennaf, 2005 pan oedd yn gyfarwyddwr yr adran derfysgaeth.

Dywedodd heddiw ei fod yn “fraint” cael ei benodi’n gyfarwyddwr cyffredinol MI5.

“Rwy’n hynod o falch o’r gwaith aruthrol sy’n cael ei wneud gan ddynion a menywod MI5 i gadw’r wlad yn ddiogel mewn amgylchiadau heriol.

“Rwy’n edrych ymlaen at arwain y gwasanaeth trwy’r cyfnod nesaf.”