Zip World
Mae nifer o atyniadau hamdden newydd wedi agor eu drysau am y tro cyntaf yn barod ar gyfer y Pasg.

Mae’r atyniadau, sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu disgrifio gan Lywodraeth Cymru fel rhai “llawn adrenalin, gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu a thrysorau cudd”.

Mae Zip World, y wifren zip fwyaf yn Hemisffer y Gogledd, wedi agor i gyd-fynd â dechrau’r tymor gwyliau.

Mae’r atyniad wedi derbyn £240,000 gan Gronfa Twf Economaidd Cymru, ac mae wedi’i leoli yn Chwarel y Penrhyn.

Bydd ymwelwyr yn cael teithio 700 troedfedd i’r awyr uwchben llyn mynyddig, ac fe fydd cyfle i weld rhannau helaeth o Eryri, Ynys Môn, a rhannau o Ynys Manaw.

Dywedodd Sean Taylor o Zip World: “Bydd Zip World yn atyniad cyffrous ar gyfer y teulu cyfan.

“Os ydych yn wyth neu’n wythdeg does dim byd mwy cyffrous na hedfan drwy’r awyr fel Superman.

“Gyda golygfeydd ysblennydd, cyflymder cyffrous a grym disgyrchiant eithriadol bydd Zip World yn gwireddu breuddwyd pawb sy’n mwynhau gwefr.”

Atyniadau lu ledled Cymru

Mewn rhannau eraill o Gymru, fe fydd Fferm Wiggley’s yn agor ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y Pasg.

Fe fydd yr atyniad, sydd wedi derbyn £131,000 gan Lywodraeth Cymru, yn gartref i anifeiliaid, ardaloedd chwarae awyr agored a dan do, llwybrau natur a chaffi.

Ar Ynys Môn, fe fydd ystafell de ac adeilad croeso newydd yn agor ym Mhlas Cadnant, yn dilyn nawdd o £80,000.

Bydd ystafell de newydd yn agor yn Abertawe dros y penwythnos hefyd, wrth i ddynes fusnes leol fynd ati i ail-greu awyrgylch dyddiau’r Bechgyn Kardomah hanesyddol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae’r sector twristiaeth yn cyfrannu £5 biliwn at economi Cymru ac mae’n cyflogi dros 8% o’r gweithlu.

“Dyma’n sicr un o’n marchnadoedd twf allweddol.

“Y Pasg yw dechrau traddodiadol y tymor gwyliau a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i bob busnes twristiaeth ar gyfer y Pasg a’r tymor sydd i ddod er gwaetha’r tywydd oer.

“Rwy’n falch fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi ystod mor eang o fusnesau twristiaeth ar draws y wlad.

“Mae Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £2.1m i fusnesau twristiaeth yng Nghymru ers mis Ebrill 2012 ar gyfer prosiectau sy’n creu 179 o swyddi newydd ac yn diogelu 41 o swyddi presennol.”