Syr Norman Bettison
Fe fyddai gan Syr Norman Bettison “achos i’w ateb am gamweinyddu difrifol ” am ei weithredoedd yn dilyn cyhoeddi adroddiad i drychineb Hillsborough, meddai Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Roedd Awdurdod  Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi gofyn i’r IPCC i ymchwilio i’r cyn brif gwnstabl yn dilyn honiadau ei fod wedi ceisio ymyrryd gydag ymchwiliadau’r heddlu i’w rôl yn Hillsborough.

Mae’r IPCC wedi dod i’r casgliad y byddai gan Syr Norman achos i’w ateb am gamweinyddu difrifol petai’n dal i fod yn brif gwnstabl.

Fe ymddiswyddodd y llynedd.

Mae cyfreithwyr Syr Norman wedi cwestiynu pa mor deg yw’r adroddiad.

Adroddiad Hillsborough

Roedd ymchwiliad Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymwneud a’r cyfnod yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol panel annibynnol Hillsborough, oedd yn honni bod yr heddlu wedi ceisio rhoi’r bai ar gefnogwyr pêl-droed Lerpwl am y trychineb  ar 15 Ebrill, 1989.

Roedd Syr Norman yn brif arolygydd gyda Heddlu De Swydd Efrog adeg y trychineb a bu’n un o’r rhai oedd yn gyfrifol am adroddiad i sut yr oedd yr heddlu wedi delio a’r trychineb.

Mae Syr Norman wedi gwadu unrhyw ymgais i gelu’r gwirionedd.

Gan ei fod wedi ymddiswyddo ym mis Hydref 2012 ni fydd Syr Norman yn wynebu gwrandawiad disgyblu.