Bu gostyngiad o  £9 biliwn yn y swm gafodd ei fenthyg gan y Llywodraeth, yn ôl ffigurau gafodd eu cyhoeddi bore ma.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd benthyciadau yn y sector cyhoeddus wedi gostwng i £2.8 biliwn fis diwethaf, o £11.8 biliwn flwyddyn yn ôl.

Mae’r gostyngiad yn bennaf oherwydd yr elw o £2.3 biliwn a wnaeth y Llywodraeth trwy werthu technoleg 4G.

Mae’r ffigwr ar gyfer benthyciadau, sy’n dangos y gostyngiad mwyaf ers mis Chwefror 2008, yn llygedyn o obaith i’r Canghellor George Osborne. Fe gyhoeddodd yn ei gyllideb ddoe y byddai’n rhaid i’r Llywodraeth fenthyg bron i £60 biliwn yn fwy nag oedd wedi ei ragweld erbyn 2017/18.