Christina Edkins
Fe fydd dyn yn cael ei gyhuddo o lofruddio’r ferch 16 oed a gafodd ei thrywanu ar fws wrth iddi deithio i’r ysgol ym Mirmingham wythnos ddiwethaf.

Dywed Heddlu’r West Midlands eu bod nhw wedi cael caniatâd Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyhuddo Phillip Simelane, 22, o lofruddio Christina Edkins.

Cafodd Simelane, o Walsall, ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn dilyn yr ymosodiad ddydd Iau diwethaf, ac fe fydd yn cael ei gyhuddo o lofruddio yn y man, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Yn y cyfamser mae rhieni Christina, Jason a Kathleen Edkins, wedi rhoi teyrnged i’w merch “bywiog, hardd a deallus” gan ddweud na fydd eu bywydau “fyth yr un fath eto.”