Y cynlluniau ar gyfer y campws yng nghanol Caerdydd
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer adeiladu campws newydd gwerth £45 miliwn yng nghanol Caerdydd.

Bydd y gwaith ar y safle yn dechrau yn yr haf, i greu safle modern, 16,000 metr sgwâr o faint, i’r de o orsaf drenau Caerdydd. Mae disgwyl i’r gwaith orffen erbyn 2015, a bydd myfyrwyr yn dechrau cyrsiau yn yr Hydref.

Mae’r cynllun yn cynnwys bwyty ar lawr uchaf yr adeilad, campfa, cyfleusterau harddwch a thorri gwallt ac ystafelloedd cynhadledd.  Y bwriad yw creu safle a fydd yn fuddiol i fyfyrwyr, a’r gymuned eang.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynllun, gan gyfrannu £20 miliwn at gost yr adeilad er mwyn creu “safle i ysbrydoli, a chyfleusterau dysgu i unigolion, cymunedau a chyflogwyr yn yr ardal.”

Cafodd Coleg Caerdydd a’r Fro ei sefydlu yn 2011, wedi i golegau’r Barri a Glan Hafren uno.  Mae’n darparu addysg bellach i fyfyrwyr Caerdydd a Bro Morgannwg.