Chris Huhne
Mae’r cyn weinidog yn y Cabinet Chris Huhne a’i gyn-wraig Vicky Pryce wedi treulio eu noson gyntaf dan glo ar ôl cael eu carcharu am wyth mis  ddoe.

Yn Llys y Goron Southwark cafodd y ddau eu dedfrydu i garchar am wyrdroi cwrs cyfiawnder, ar ol i Pryce gymryd pwyntiau Huhne am oryrru ar ei thrwydded yn 2003.

Dywedodd y barnwr bod trosedd o’r fath yn “tanseilio’r system gyfiawnder”.