Mae grŵp bancio RBS wedi ymddiheuro i filiynau o’u cwsmeriaid ar ôl i broblemau technegol olygu eu bod nhw’n methu mynd i mewn i’w cyfrifon na chymryd arian o’r peiriannau twll yn y wal.

Dyma’r eildro mewn naw mis i hyn ddigwydd – ym mis Mehefin y llynedd roedd problemau cyfrifiadurol wedi golygu bod miliynau yn methu tynnu arian am hyd at wythnos.

Fe ddechreuodd cwsmeriaid RBS , NatWest a Bank of Ulster gael trafferthion gyda’u cyfrifon neithiwr ac am 11.30yh fe gyhoeddodd y grŵp ymddiheuriad ar Twitter.

Cafodd y problemau eu datrys tua 1yb.

Dywedodd llefarydd ar ran RBS: “Ry’n ni’n siomedig bod ein cwsmeriaid wedi wynebu trafferthion gyda’r gwasanaeth bancio am gyfnod heno ac rydym yn ymddiheuro am hynny. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg yn ôl yr arfer erbyn hyn.”

Ychwanegodd y dylai unrhyw gwsmeriaid sy’n parhau i gael problemau gysylltu gyda’r gwasanaeth i gwsmeriaid.