Bethan Jenkins
Dylai’r Aelod Cynulliad, Bethan Jenkins, gael cerydd ar ôl iddi gael ei dedfryd am yfed a gyrru.

Dywedodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y byddai cerydd yn anfon neges glir nad yw ymddygiad o’r fath yn dderbyniol.

Mae’r pwyllgor am annog y Cynulliad i gefnogi’r argymhelliad.

Ar Hydref 31 cafodd  Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ei stopio gan yr heddlu wrth iddi ddychwelyd adref o barti pen-blwydd. Roedd yr alcohol yn ei gwaed fwy na dwywaith y lefel gyfreithiol.

Cafodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ol pledio’n euog i’r cyhuddiad yn llys ynadon Caerdydd ym mis Rhagfyr.

Cafodd Bethan Jenkins ei diarddel o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, ond fe ddaeth yn aelod llawn unwaith eto ym mis Ionawr.

Ar ôl iddi gael ei harestio ildiodd Bethan Jenkins ei chyfrifoldeb dros Chwaraeon, Treftadaeth a’r Gymraeg yng ngrŵp y Blaid.