Jimmy Savile
Fe fydd mesurau radical yn cael eu cyflwyno i drawsnewid y ffordd mae’r system gyfiawnder droseddol yn mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol yn sgil helynt Jimmy Savile, fe gyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Keir Starmer QC mai bwriad y cynlluniau yw osgoi achosion eraill fel un Jimmy Savile yn y dyfodol. Mae’r heddlu’n ymchwilio i gannoedd o honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn y cyn-gyflwynydd teledu.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys sefydlu panel a fyddai’n gallu adolygu achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol.