Mae 464 o swyddi yn y fantol unwaith eto, wrth i weinyddwyr cwmni siopau recordiau HMV gyhoeddi y bydd 37 o siopau eraill yn cau.

Yn ôl y cwmni Deloitte, fe fydd y siopau’n cau rywbryd yn ystod y tair i bedair wythnos nesa’.

Fe fydd yn arwain at ddiswyddo bob aelod o staff yn y siopau hynny, er y byddai’n gwneud ei orau i ddod o hyd i swyddi iddyn nhw mewn siopau eraill, lle mae hynny’n bosib.

Fe fydd y symudiad yn golygu mai 116 o siopau HMV fydd yna’n weddill yng ngwledydd Prydain. Mae 66 o siopau eisoes wedi cau yn gynharach y mis hwn, gan roi 1,000 o bobol ar y clwt.