Mae newyddiadurwyr y BBC yn bygwth cynnal streic undydd, oni bai fod y Gorffordaeth yn cytuno i roi’r gorau i ddiswyddo pobol.

Mae undeb newyddiadurwyr yr NUJ yn dweud y bydd ei haelodau o fewn y BBC yn cerdded allan ar Fawrth 18, yn ogystal â rhoi’r gorau i wneud unrhyw beth sydd ddim yn rhan o’u cytundebau gwaith o ddydd Gwener nesa’ ymlaen.

Fe fydd y gweithredu hwn yn parhau, oni bai y bydd trafodaethau rhwng y ddwy ochr yn llwyddo i ddwyn ffrwyth yr wythnos nesa’.