Gai Toms, un o feirniaid Cân i Gymru 2013
Mae’r chwe chân sydd ar restr fer Cystadleuaeth Cân i Gymru wedi’u cyhoeddi – gyda chyfuniad o enwau cyfarwydd a thalent newydd wedi cael lle.
Yn ôl y beiriaid, Lisa Gwilym, Gai Toms, Griff Lynch a Gwilym Dwyfor, y chwe chân sy’n haeddu lle ar Restr Fer Cân i Gymru 2013 yw:
Breuddwydion Ceffyl Gwyn gan Alun Evans
Ein Tir Na Nóg Ein Hunain gan Catrin Herbert
Aur ac Arian gan Elin Parisa Fouladi a Ben Dabson
Amser Mynd i’n Gwlâu gan Geth Vaughan a Pete Jarvis a fydd yn cael ei pherfformio gan Dyfrig Evans
Bywyd Sydyn gan Rhydian Gwyn Lewis
Mynd i Gorwen Hefo Alys gan Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, sef dau aelod band Jessop a’r Sgweiri.
Mae’r artistiaid bellach wedi derbyn £900 yr un i weithio gyda chynhyrchydd a stiwdio gerddoriaeth o’u dewis, er mwyn cynhyrchu eu cân yn broffesiynol ar gyfer y rownd derfynol.
Mae mwy o wybodaeth am yr artistiaid a’r caneuon ar s4c.co.uk/canigymru