Mae lluoedd Ffrainc a Mali wedi llwyddo i ad-feddiannu dinas ogleddol Gao, wedi i ymladdwyr Islamaidd geisio ei rheoli.
Fe ddaeth cannoedd o drigolion ynghyd o gwmpas hen bencadlys Gao, adeilad sydd wedi ei ddifrodi’n sylweddol yn ystod yr ymladd. Bore heddiw, roedd nifer fawr o gyrff dynol hefyd wedi eu gosod yno, ddiwrnoad wedi ymosodiad ar y ddinas gan gwrthryfelwyr.
Fe fu’r gwrthryfelwyr Islamaidd yn rheoli Gao am tua 10 mis, cyn iddyn nhw gael eu taflu allan ddiwedd mis Ionawr. Bryd hynny, fe ddiflannon nhw mewn cychod ar draws yr afon Niger.
Fe fu farw dau ddyn cyffredinol o ganlyniad i gael eu saethu, ac fe gafodd 10 arall eu hanafu, yn ystod y pum awr o ymladd ddoe.