Dylid torri’n ôl ar gyflog pob aelod o staff pob banc yn yr Iseldiroedd, yn ôl Gweinidog Cyllid y wlad.

Dyna un ffordd o wneud yn iawn am yr arian y mae’r llywodraeth wedi gorfod ei bwmpio i mewn i’r diwydiant bancio, yn ôl Jeroen Dijsselbloem.

Mae bron pob un o fenthycwyr yr Iseldiroedd wedi derbyn cymorth ariannol gan y llywodraeth, meddai, felly fe ddylen nhwthau a’u staff dderbyn llai o gyflog.

Fe wnaeth y gwleidydd ei sylwadau mewn cyfweliad ym mhapur newydd De Telegraaf, ac mae wedi codi gwrychyn nifer fawr o bobol.

Yn gynharach y mis hwn, fe fu ymladd yn y senedd ar ôl i SNS Reaal NV gael ei wladoli, a chyflog o 550,000 (468,000) o gyflog sylfaenol i’w Brif Weithredwr newydd, Gerard van Olphen.